Navigation
Home Page

Cyngor ysgol School Council

Cyngor Ysgol 2023-2024

Diolch i'r cyngor ysgol am gynnal stondin gacennau i hel pres at elusen Macmillan ac wedi codi £147.50 - GWYCH!

Thanks to the school council for arranging a Macmillan cake stall and raised £147.50 - EXCELLENT!

Diwrnod Plant Mewn Angen - Children in Need Day

Cyngor Ysgol 2022-2023 

Ein cyfarfod cyntaf yn penderfynu ar ein dyletswyddau ac yn trafod  syniadau diwrnod plant mewn angen.

 

Our first meeting discussing our different roles and sharing our ideas for children in need day.

Diolch i'r cyngor ysgol am gasglu £98 tuag at elusen Marie Curie drwy werthu cennin pedr.  Daeth Peter o'r elusen i roi sgwrs i ni ar ddydd Gwyl Dewi.

Thank you to the school council for raising £98 towards the Marie Curie charity by selling daffodils.  Peter from the charity came to give us a talk on St David's day.

Y cyngor ysgol yn pleidleisio am eu hoff posteri 'Dim Cwn' a 'Bagio a Binio' cyn eu pasio ymlaen at y cyngor cymunedol sydd yn ceisio datrys problem baw cwn y pentref.

The school council voting for their favourite 'No Dogs' and 'Bag it and Bin it' posters, before handing them over to the community council who are trying to solve the dog fouling issues in the village.

Diwrnod Plentyndod NSPCC - diolch i'r cyngor ysgol am drefnu gweithgaredd teithio milltir mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cicio pel, dawnsio, wy ar lwy, cerdded yn ol, sgipio a rholio, gan lwyddo i hel pres at elusen pwysig iawn.

 

NSPCC Childhood Day - the school council arranged for us to travel a mile in different ways, including kicking a ball, dancing, egg and spoon, walking backwards, skipping and rolling. Thank you for raised money towards a very important charity.

Cyngor Ysgol 2021-2022

 

Ein cyfarfod cyntaf yn trafod dyletswyddau pawb ac hefyd beth rydym yn bwriadu ei wneud ar ddiwrnod plant mewn angen eleni.

 

Our first meeting discussing our various roles and also discussing our plans for children in need day this year.

Diwrnod Plant Mewn Angen ~ Children In Need Day

Diolch i'r cyngor ysgol am drefnu diwrnod gwisgo pyjamas.  Cawsom lawer o hwyl yn dawnsio, chwarae rasys tim jig-so, bwyta afal heb ddefnyddio dwylo, cystadleuaeth lliwio Pydsi a chreu cardiau 'Codi Calon' at blant Ty Gobaith.   Casglwyd £227 - GWYCH!

 

Thank you to the school council for arranging a pyjama day.  We had lots of fun dancing, having a team jig-saw race, eating apples without using our hands, Pudsey colouring competition and creating cards for the children at Hope House.  We collected £227 - EXCELLENT!

Y llysgenhadon iaith wedi dod i drafod eu syniadau ar sut i wella gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn yr ysgol.

 

The Welsh Embassadors came to discuss their ideas on how to improve listening to Welsh music in school.

Diolch i'r cyngor ysgol am drefnu diwrnod gwisgo dillad melyn a glas i gefnogi Wcrain ac hefyd i mam Harris am yr hadau blodau haul i bawb.

 

Thank you school council for arranging that everybody can wear blue and yellow clothes to support Ukraine, and thank you also to Harris' mum for the sunflower seeds.

Diwrnod Plentyndod NSPCC Childhood Day

Diolch i'r cyngor ysgol am drefnu EgHwyl i gasglu pres at elusen NSPCC. Cawsom lawer o hwyl yn cael helfa yn yr ardd, disgo tu allan a gemau amrywiol. 

 

Thank you to the school council for organising a Big Breaktime to raise money for NSPCC.  We had lots of fun with our garden hunt, outside disco and a variety of games.

     Cyngor Ysgol 2020 - 2021

Cyngor Ysgol 2018-2019

Diolch yn fawr iawn i'r cyngor ysgol am drefnu bore coffi Macmillan.  Daeth pawb i'r ysgol mewn dillad piws, gwyrdd a gwyn, a codwyd £269 drwy werthu cacennau blasus iawn.

 

Thank you very much to the school council for arranging a Macmillan coffee morning.  Everybody wore purple, green and white and we raised £269 selling delicious cakes. 

Diolch i'r cyngor ysgol am drefnu Diwrnod Sanau Od i gychwyn gweithgareddau Wythnos Gwrth-Fwlio, ac hefyd am drefnu diwrnod plant mewn angen, gyda phawb yn gwisgo pyjamas a/neu bandej ac yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio plastar i Pudsey a gem gosod y trwyn ar wyneb Pudsey.  Casglwyd £81 tuag at yr achos haeddianol yma.

 

Thank you to the school council for arranging the Odd Socks Day to start off Anti-Bullying Week, and also for arranging children in need day, where everybody wore pyjamas  and/or a bandage.  They also arranged a competition where everybody designed a plaster for Pudsey and we all enjoyed playing pin the nose on Pudsey!  We collected £81 towards children i need.


Top